Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
18 Mawrth 2020
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6265
------
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1-3 a 5-9. Cafodd cwestiynau 3 a 7 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Tynnwyd cwestiwn 4 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.15
Gofynnwyd cwestiynau 1, 3, 4, 6, 8, 10 ac 11. Tynnwyd cwestiynau 2, 5 a 7 yn ôl. Ni ofynnwyd cwestiwn 9. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 3.
Dechreuodd yr eitem am 14.49
Gofyn i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
Alun Davies (Blaenau Gwent): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad mewn ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth y DU ynghylch cymorth i fusnesau a'r economi a wnaed ar 17 Mawrth 2020?
Dechreuodd yr eitem am 14.49
NNDM7309 – Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i’r eitem fusnes nesaf gael ei hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher, 18 Mawrth 2020.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 15.21
NNDM7310 – Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Diwygio Rheolau Sefydlog: Newidiadau sy’n deillio o newid enw’r sefydliad’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mawrth 2020; a
2. Yn cymeradwyo’r cynnig i ddiwygio’r Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad A i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.
3. Yn nodi y bydd y newidiadau yn dod i rym ar 6 Mai 2020.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 15.21
NNDM7311 – Elin Jones (Ceredigion)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3:
1. Yn cytuno i newid enw a chylch gwaith Y Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad i’r Pwyllgor ar Ddiwygio Etholiadol y Senedd.
2. Yn nodi y bydd y newid yn dod i rym ar 6 Mai 2020.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 15.22
NNDM7312 – Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:
1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Busnes y Cynulliad ac Amgylchiadau Eithriadol' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Mawrth 2020.
2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio’r Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad A i adroddiad y Pwyllgor Busnes.
3. Yn nodi bod y newidiadau hyn yn rhai dros dro, ac y byddant yn peidio â chael effaith pan gaiff y Cynulliad hwn ei ddiddymu.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dechreuodd yr eitem am 15.30
NNDM7313 – Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1. Yn unol â Rheol Sefydlog 6.24D, yn ethol David Melding yn Gadeirydd Dros Dro o dan y telerau a bennir o dan Reol Sefydlog 6.24E.
2. Yn unol â Rheol Sefydlog 6.24A, yn ethol David Melding yn Llywydd Dros Dro dynodedig
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd yr eitem hon.
Gohiriwyd yr eitem hon.
Gohiriwyd yr eitem hon.
Gohiriwyd yr eitem hon.
Ni chafwyd Cyfnod Pleidleisio
Tynnwyd yr eitem hon yn ôl
Daeth y cyfarfod i ben am 15.32
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 24 Mawrth 2020